Beruflich Dokumente
Kultur Dokumente
iThinkSport
Mae iThinkSport yn darparu cymorth
seicoleg perfformio i chwaraewyr
drwy eu gwefan.
Caiff hyn ei wneud drwy system anogaeth arloesol syn
annog chwaraewyr i ddewis ac ymrwymo i anogaeth a fydd,
yn eu barn hwy, yn helpu eu perfformiad. Gallant gysylltu
defnyddwyr safleoedd eraill hefyd drwy wneud sylwadau
ar eu hanogaeth a rhannu eu profiadau. Bydd yr ap hwn
yn rhoi cyfle i chwaraewyr gysylltu u hanogaethau drwy
ddyfais symudol pan fyddant yn hyfforddi ac yn cystadlu.
Roedd defnyddio ap yn dda ar gyfer ein busnes gan ein bod
yn gwerthfawrogi bod athletwyr yn symud o gwmpas yn aml
oherwydd eu camp naill ai wrth hyfforddi neu gystadlu
ac yn aml, mae angen anogaeth fach arnynt pan fyddant
i ffwrdd ou gliniadur/cyfrifiadur sefydlog.
Maer ap hwn yn galluogi athletwyr i chwilio am anogaethau
syn seiliedig ar eu camp ddewisol au sefyllfa bresennol,
ac ymrwymo iddynt, e.e. angen cymhelliant, angen ffyrdd
gwell o hyfforddi, ac ati. Dawr anogaethau o amrywiaeth
o chwaraeon ac maent yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau
er mwyn helpu chwaraewyr gydau perfformiad. Er enghraifft,
os bydd chwaraewr yn teimlon bryderus cyn cystadleuaeth,
mae gennym anogaeth iw helpu... Nodwedd oraur ap ywr
gallu i gysylltu ag anogaethau ar ddyfeisiau symudol gan roi
cyfle i chwaraewyr gael cymorth yn syth pan fydd ei angen
arnynt gan greu ymdeimlad o berthyn i dm. Maer ap
wedii anelu at chwaraewyr o lefel amatur i lefel broffesiynol
mewn amrywiaeth o chwaraeon.
Daethom o hyd i CEMAS drwy chwilio ar y we pan oeddem
yn chwilio am sefydliad in helpu i ddatblygu ap... Mae CEMAS
wedi ein cynorthwyo gydar holl waith o gynllunior ap,
or dechrau ir diwedd, drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb,
sgyrsiau ar Skype a negeseuon e-bost.